Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


10 Lower Grange ym Magwyr


10 ardal gymeriad Lower Grange ym Magwyr: un arall o ystadau Tyndyrn, a ddraeniwyd yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 022)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r dirwedd o amgylch Lower Grange ym Magwyr yn dyddio yn bennaf o ganol y drydedd ganrif ar ddeg pan roddwyd caniatâd i fynachod Tyndyrn ei hamgáu a'i draenio. Fodd bynnag, mae ffiniau allanol, gan gynnwys Blackwall a Whitewall yn gynharach.

Mae cyfres o gyfeiriadau canoloesol at Whitewall a draeniau "Lower Grange" a oedd yn eiddo i Abaty Tyndyrn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Nodweddion draenio gan gynnwys prif ffosydd (nid oes unrhyw gefnennau/draeniau agored wedi goroesi), lonydd â gwastraff ymyl ffordd, anheddiad hirfain a chae ar wastraff ymyl ffordd, patrwm rheolaidd o gaeau unionlin, cysylltiad mynachaidd pwysig (maenor fynachaidd)

I'r dwyrain mae Ffos Whitewall (ardal 6), i'r de mae Pill Street (ardal 6), ac i'r gorllewin mae Ffos Blackwall (ardal 6). Mae Gwarchodfa Natur Cors Magwyr (ardal 9) i'r gogledd.

Mae prif elfennau'r dirwedd hon yn cynnwys y tair ffordd/ffos ddraenio sy'n ffurfio'r ochr ddwyreiniol, yr ochr orllewinol a'r ochr ddeheuol. Roedd gan Pill Street i'r de a Whitewall i'r dwyrain stribedi llydan o wastraff ymyl ffordd gynt. Amgaewyd y stribedi hyn ac adeiladwyd bythynnod ar rannau ohonynt. Mae Blackwall i'r gorllewin yn lôn werdd; mae arwyneb cerrig gwreiddiol y wal ei hun wedi goroesi mewn mannau.

Nodweddir patrwm y ffiniau caeau gan gaeau unionlin mawr, sydd wedi cadw eu cymeriad hanesyddol, er iddynt gael eu hehangu'n ddiweddar. Yr unig fferm yw Fferm Lower Grange ei hun. I'r dwyrain mae Ffos Mill, ffos ddraenio a godwyd sy'n cario dwr o'r ucheldiroedd ar draws y Gwastadeddau i'r arfordir ym Magor Pill (yn yr un ffordd ag y mae Monksditch yn ei wneud yn ardaloedd 1, 2 a 4).

Mae hon yn dirwedd brin iawn ar y Gwastadeddau am fod y broses o'i chreu wedi'i chofnodi. Mae'r cysylltiad â mynachod Abaty Tyndyrn yn ei gwneud yn bwysicach byth. Mae hefyd yn dirwedd gydlynus iawn sy'n werthfawr iawn fel grwp. Mae golygfeydd eang o'r ucheldiroedd, sy'n dra gwahanol i'r darn helaeth o dir gwastad sy'n ffurfio'r Gwastadeddau.

Mae pob un o'r caeau wedi cael ei wella ac nid oes unrhyw gefnennau/draeniau agored wedi goroesi. Torrwyd neu cliriwyd y rhan fwyaf o'r gwrychoedd, er bod ychydig o goed o amgylch y fferm ei hun. Mae'r ardal wedi'i haredig ar raddfa fawr iawn.

Er gwaethaf gwelliannau amaethyddol a'r ddwy sef o beilonau sy'n croesi'r ardal, erys y dirwedd hon yn un sydd wedi'i chadw'n dda. Mae rhannau o Blackwall a Ffos Mill mewn cyflwr da, ac mae'r patrwm o gaeau mawr wedi cadw eu cymeriad gwreiddiol. Mae'r ardal yn enghraifft wych o faenor fynachaidd wedi'i chofnodi ac mae iddi ffiniau pendant.

At ei gilydd, mae'r dirwedd hon wedi cadw ei chyfanrwydd, ac er ei bod wedi colli rhywfaint o gydlyniant ar hyn o bryd, gellid adfer hynny drwy ailosod ffiniau caeau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk